Radio

Pecyn Radio – Noson Allan Yng Nghaerdydd

Dyma fy mhecyn radio mae hi’n cadw i’r thema ‘Noson Allan Yng Nghaerdydd’ trwy gydol y pecyn. Mae’r gerddoriaeth yn fodern ac mae pob myfyrwyr yn adnabod y caneuon. Mae’r pecyn yn cynnwys ‘Voxpops’ o fyfyrwyr yn siarad am ei phrofiadau mynd allan yng Nghaerdydd ac mae yna gyfweliad gyda Mali Rees sy’n gweithio yn glwb nos boblogaidd ‘Glam’. Hefyd rydw i’n rhoi ‘Top Tips’ i fyfyrwyr am ble i fynd i gael noson wych allan yng Nghaerdydd. Defnyddiais i ‘Adobe Audition’ i olygu’r pecyn.


Wrap – Cyfweliad gyda Beyonce am y film ‘Epic’

 Wnes i ddewis y cyfweliad yma gyda Beyonce Knowles oherwydd mae hi’n sôn am ei rôl yn y ffilm newydd ‘Epic’. Mae’r cyfweliad yn glir a roedd llawer o bethau wnaeth Beyonce dweud i weithio gyda. Yn gyntaf wnes i olygu’r cyfweliad a dewisais i’r darnau mwyaf pwysig i gadw. Wedyn ysgrifennais i linkiau mewn ac allan ar gyfer cyflwyno Beyonce.


Radio Drama – Y Galwad Ffôn

Dyma ddrama Radio fi, Mali Rees a Siwan Cati. Syniad ni oedd dod lan gyda drama radio newydd a diddorol. Roeddwn ni eisiau defnyddio llawer iawn o effeithiau sain. Roedd Aaron Cooper a Mali Rees wedi cymryd rhan fel actorion ar gyfer y ddrama yma. Rydw i’n hapus gydag effaith yr effeithiau sain oherwydd maen nhw’n hawdd i’w deall ac yn effaith da ar y stori. Gwendidau’r gwaith yw tro nesaf mae rhaid i ni fod yn ofalus gydag amser yn cre ddrama radio.


Dyma fy ngwefan ‘soundcloud’ sy’n gynnwys gyd o fy ngwaith radio! Cymerwch olwg 🙂

https://soundcloud.com/bethangharad-1

20131022_000308

 


Leave a comment