Es i ar brofiad gwaith ar 28/1/14 gyda rhaglen ‘Y Lle’ ar sianel S4C. Roedd fy rôl ar y diwrnod oedd ymchwilydd/rhedwr i’r tîm gynhyrchu ar gyfer sioot fasiwn o’r enw ‘Stylist Wars’. Roedd Leni Hatcher o’r rhaglen ‘Y Lle’ wedi bostio ar grŵp ‘Awyr Las’ ar Facebook yn gofyn am fyfyrwyr sydd â diddordeb yn cymryd rhan yn y sioot. Roedd Leni yn gofyn am fyfyrwyr sydd yn berson ifanc, bywiog, trefnus ac sydd â diddordeb mewn ffasiwn. Ar ôl e-bostio Leni yn cynnig am y profiad gwaith roedden ni wedi cwrdd ar ddydd Sul 25/1/14 yn ‘Porters’ i drafod gofyniad y profiad gwaith. Roeddwn i wedi mwynhau’r profiad yn fawr iawn. Cefais i’r cyfle i ddefnyddio’r camera, setio’r goleuadau a helpu fel rhedwr.
Ffilmio ffilm fer ar gyfer plant yn Ysgol Iolo Morgannwg yn Y Bont-faen.
Filming a short film for children in Ysgol Iolo Morgannwg in Cowbridge.
Sgript gan/ Script by – Mathew Glyn
Es i ar brofiad gwaith i MariGold Yng Nghaerdydd ar 23/10/13 am un diwrnod. Ges i’r cyfle i weld sut mae’r cwmni yn gweithio. Gwelais i tu fewn i’r adeilad llawn gwisgoedd amrywiol. Yn ystod fy amser yn y siop roeddwn i wedi ateb y ffon, delio gyda chwsmeriaid, helpu rhoi gwisgoedd at ei gilydd am hysbysebion a rhaglenni teledu a hefyd wnes i gwisgo dwy mannequin roedd o’r blaen y siop. Roedd hyn yn brofiad grêt i weld pa mor bwysig yw gwisgoedd yn y cyfryngau a chyfle i ychwanegu at fy nghysylltiadau gwaith.
Here is a picture of the SSP Media team at the National Procurement Awards at City Hall in Cardiff.
Dyma lun o’r tîm SSP Media yn y ‘National Procurement Awards’ yn ‘City Hall’ yng Nghaerdydd.
Dyma lun o’r ail ddiwrnod yn ffilmio ar gyfer promo Canolfan ABC yn Gampws Llandaf! Roeddwn i wedi cymryd rhan fel gweithredwr camera. Roeddwn i wedi mwynhau y profiad yn gweithio fel team cynhyrchu yn fawr iawn.
Cyfarwyddwr/Director : Mali Rees
Cynhyrchydd/Producer : Aled Bishop
Golygwyr/Editors : Elen Jones & Siwan Cati
Camera : Beth Angharad, Steffan Griffiths & Elen Jones
Sain/Sound : Sioned Evans
Cynorthwydd Cynhyrchu : Catrin Euron