Day: November 8, 2013

Pecyn Radio 16

Video Posted on Updated on

Dyma fy fideo 30eiliad terfynol ar gyfer asesiad radio. Dewisais i’r clipiau yma oherwydd mae’n dangos noson allan yng Nghaerdydd mae’n cyd-fynd gyda thema fy mhecyn. Problemau cefais i wrth ffilmio oedd y tywydd. Roedd hi’n wyntog iawn wrth ffilmio yn y nos hefyd roedd y camera yn denu sylw diangen. Rydw i’n hapus gyda’r canlyniad mae’r clipiau yn dangos trefn noson allan myfyrwyr yng Nghaerdydd.

Gem Argyfwng

Video Posted on

Roedd Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi trefnu gem argyfwng am dri diwrnod yn y ‘Canolfan Yr Urdd’ lawr yn Bay Caerdydd. Roedd myfyrwyr Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Aberystwyth yn cymrud rhan yn ystod y tri diwrnod. Roeddwn i ar y tîm y wasg ac ein swydd oedd ffilmio, golygu, cyfweld a myfyrwyr a trydaru dros y dyddiau hynny.

Pecyn Radio 15 – Cerddoriaeth Gweledol

Video Posted on

Dyma’r gerddoriaeth rydw i wedi dewis am gefndir yr aseiniad gweledol. Cefais i’r gerddoriaeth yma o Audionetwork.com.

Pecyn Radio – 14

Video Posted on

Dyma enghraifft o gyfweliad defnyddiais i yn fy voxpops ar gyfer fy mhecyn radio. Mae’r cyfweliad gyda myfyrwraig Siwan Cati Hughes. Rydw i’n gofyn cwestiynau am nosweithu allan yng Nghaerdydd. Wnes i ddefnyddio rhannau o’r cyfweliad yma yn y voxpops yn y pecyn terfynol. Mae’r cyfweliad yn glir ac mae yna atebion diddorol gan Siwan.

Wrap Tom Fears / Pecyn Radio 13

Posted on Updated on

Dyma gyfweliad gyda myfyrir Tom Fears o Aberystwyth. Wnes i olygu’r cyfweliad i fod yn ‘wrap’ 40 eiliad er mwyn ymarfer defnyddio ‘Adobe Audition‘ am aseiniad Radio. Roeddwn i yn hapus gyda’r canlyniad y wrap oherwydd mae’n glir ac mae’n wrap diddorol. Mae’r wrap yn sôn am noson allan i fyfyrir yng Nghaerdydd.

Pecyn Radio / Radio Package 12

Video Posted on Updated on

Dyma ‘rough edit’ o’r voxpops wedi ei rhoi at ei gilydd i gael syniad o’r atebion cefais i o’r cyfweliadau gyda myfyrwyr. Gwendidau’r voxpops yw mai’n rhy hir felly mae rhaid i fi dorri nol ar yr atebion. Hefyd bydd rhaid i fi sicrhau mae’r lefelau yn parhau i fod yn gyson yr holl ffordd trwy.

Pecyn Radio / Radio Package 11

Video Posted on

Dyma’r cyfweliad wnes i ddewis ar gyfer fy Wrap am aseiniad Radio. Dewisais i’r cyfweliad yma achos mae Beyonce yn trafod am ei rôl yn y ffilm newydd “Epic”. Mae hi’n ffocysu ar ba mor bwysig ac arbennig yw’r rôl yma iddi hi. Dyma oedd rôl gyntaf Beyonce ar ôl iddi roi genedigaeth yw ei phlentyn cyntaf. Mae’r cyfweliad yn glir ac yn ddiddorol iawn i’r gwrandawyr ac roedd llawer o atebion gan Beyonce i olygu i’r wrap.