Day: November 10, 2013

Pecyn Radio / Radio Package 18

Video Posted on

Dyma fy mhecyn Radio terfynol am yr aseiniad Radio yn y Brifysol. Rydw i’n hapus iawn gyda’r canlyniad. Mae’n cadw i’r thema ‘Noson Allan Yng Nghaerdydd’ trwy gydol y pecyn. Mae’r gerddoriaeth yn fodern ac mae pob myfyrwyr yn adnabod y caneuon. Mae’r pecyn yn cynnwys ‘Voxpops’ o fyfyrwyr yn siarad am ei phrofiadau mynd allan yng Nghaerdydd ac mae yna gyfweliad gyda Mali Rees sy’n gweithio yn glwb nos boblogaidd ‘Glam’. Hefyd rydw i’n rhoi ‘Top Tips’ i fyfyrwyr am ble i fynd i gael noson wych allan yng Nghaerdydd. Defnyddiais i ‘Adobe Audition’ i olygu’r pecyn. Gwendidau’r rhaglen oedd pan agorais i fy ngwaith ar gyfrifiadur arall doedd hi ddim yn gallu linio’r clipiau gyda’i gilydd. Felly roedd rhaid i fi orffen y gwaith ar un gyfrifiadur.

Pecyn Radio – Wrap – 17

Video Posted on

Dyma fy wrap terfynol ar gyfer yr aseiniad radio yn y Brifysgol. Wnes i ddewis y cyfweliad yma gyda Beyonce Knowles oherwydd mae hi’n sôn am ei rôl yn y ffilm newydd ‘Epic’. Mae’r cyfweliad yn glir a roedd llawer o bethau wnaeth Beyonce dweud i weithio gyda. Yn gyntaf wnes i olygu’r cyfweliad a dewisais i’r darnau mwyaf pwysig i gadw. Wedyn ysgrifennais i linkiau mewn ac allan ar gyfer cyflwyno Beyonce.